Portada

SYNIADAU AR Y MôR IBD

MELIN BAPUR
01 / 2026
9781917237734

Sinopsis

(First ever volume of the poetry of the young Welsh poet Gwenffrwd (Thomas Lloyd Jones, 1810-1834) who died in Alabama aged just 23)'Fel hyn,' ymsoniwn, 'O! mor ynfydRhed ein serch ar bethau byd,Tra yn byw yn hardd a hyfryd, gwên siriol llwydd ynghydOnd pan hulio nos o gystuddDros ein llwybrau cnawdol cu,Pan na fedd daear un llawenydd,Trown ein trem i?r nefoedd fry.'Brodor o Sir y Fflint, bu farw?r bardd Gwenffrwd, sef Thomas Lloyd Jones (1810-1834) yn alltud yn ninas Mobile, Alabama, o?r dwymyn felen pan nad oedd ond yn dair ar hugain oed.Gadawodd ryw hanner cant o gerddi ar ei ôl, sydd wedi eu casglu ynghyd yn y gyfrol hon. Er mor ifanc oedd pan fu farw roedd yn fardd wrth anian a ystyrid yn athrylith gan ei gyfoeswyr. Roedd arno eisiau ysgogi chwyldro mewn barddoniaeth Gymraeg. Arloeswr yn y mesurau rhydd, roedd yn un o?r beirdd cyntaf i ysgrifennu Soned yn Gymraeg.Mae ei gerddi yn trafod testunau megis byrhoedledd bywyd a grym dychymyg dyn, a gwelir ynddynt faenffrwyth y traddodiad telynegol a ddatblygodd yn nwylo beirdd diweddarach. Dyma?r cyhoeddiad cyntaf erioed o gyfrol gyflawn o?i farddoniaeth.

PVP
19,44€